Eleni, bydd gorymdaith flynyddol y dreigiau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn ymdroelli ar hyd strydoedd Tyddewi ar Dydd Sadwrn 27ed Chwefror am 11.30 y.b. Eleni, bydd yn agored i ysgolion a grwpiau cymunedol ar draws Sir Benfro.
Os fyddech chi neu’ch grŵp yn hoffi ymuno â’r orymdaith medrwch llwytho lawr y pecyn gwybodaeth a’r ffurflen ymuno o’r fan hon.
Bydd yr oriel ar gau rhwng Mawrth 15fed a ‘r 26ain gan ein bod yn gosod ein harddangosfa newydd ‘Y Tirlun Newidiol’. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Os hoffwch wybod mwy am y gwrthrychau a’r gwaith celf a fydd yn ymddangos yn ein harddangosfa newydd, ymunwch â Churadur Amgueddfa Cymru, Bryony Dawkes, ar Fawrth 23ain wrth iddi ddatgelu trysorau’r arddangosfa (gweler y rhestr ddigwyddiadau am fanylion).
Mae'r oriel a'r ganolfan ymwelwyr ac addysg drawiadol newydd yn Nhyddewi, a grëwyd yn arbennig i archwilio'r tirlun, yn gorwedd wrth galon enghraifft wirioneddol ysbrydoledig - Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Dewch i weld drosoch chi'ch hun trwy glicio ar y fideo isod a chael eich tywys o amgylch Oriel y Parc.
Fe fydd y ganolfan ymwelwyr ac addysg yn eich helpu i ddarganfod tirweddau amrywiol a heriol Sir Benfro. Mae'r oriel yn arddangos y ffordd y mae artistiaid wedi dehongli'r tirlun, gyda gwaith o gasgliad helaeth o waith celf a hynafiaethau Amgueddfa Cymru.
Ar ein gwefan, cewch weld beth sydd i'w wneud yn Oriel y Parc ac mae'n dangos y ffordd at wybodaeth ddefnyddiol ynghylch Tyddewi a'r ardal o amgylch.
Cliciwch ar y botymau uchod i gael gwybodaeth am:
Mae Oriel y Parc yn lle gwych i ddarganfod tirwedd a threftadaeth unigryw unig Barc Cenedlaethol gwirioneddol arfordirol y Deyrnas Unedig.
Mae mynediad yn rhad ac am ddim ac mae'r adeilad yn hollol hygyrch.
Oriel y Parc, Tyddewi, Sir Benfro, SA62 6NW
Rhif Ffôn: 01437 720392.
Mae Oriel y Parc yn eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sy'n gweithio mewn partneriaeth gydag Amgueddfa Cymru.